Wednesday 22 January 2020

“dim ond un lle arall, yna sha thre”

Mae “dim ond un lle arall, yna sha thre” yn arddangosfa o sleidiau taith a gymerwyd gan ffotograffydd anhysbys mewn gwyliau ar dir mawr Ewrop yn y 1950au a'r 60au. Wedi'u canfod wedi'u trefnu'n daclus mewn blwch pren pwrpasol, ac wedi'u nodi gyda dyddiadau a lleoliadau, maent yn ein hatgoffa am gyfnod pan oedd ffotograffiaeth analog nid yn unig yn brofiad mwy cyffredin, ond hefyd yn un dethol, gyda dim mwy na dwsin o luniau wedi'u tynnu ym mhob lleoliad, a ddewiswyd yn ofalus i gostrelu awyrgylch gwyliau haf a newydd-deb teithio tramor, rhywbeth nad oedd ond yn dechrau dod ar gael i ran ehangach o gymdeithas Prydain ar y pryd. Mae rhywbeth y gellir ei adnabod yn syth ac, i rai, gysylltu â nhw yn y ffordd mae ein ffotograffydd yn pwyntio'r camera at y golygfeydd newydd: pwll nofio awyr agored, lle mae'r dŵr a'r aer yn ddigon twym i beidio gwneud i chi grynu, ond ymlacio'n hapus yn yr haul; coed palmwydd a pherthi olewydd; gwahanol ddillad, tirluniau a phensaernïaeth; pethau y byddem wedi bod eisiau eu gweld ein hunain. Wrth edrych ar y delweddau nawr, rydym hefyd yn teithio i'r cyfnod pan oedd twristiaid yn gwisgo eu dillad dydd Sul i deithio; pan allech weld caeau'n dal i gael eu haredig gan anifeiliaid; a phan oedd natur Ewrop yn gymharol ddilychwin.




Mae ymdeimlad o dristwch ar sut y gorffennodd y casgliad yma lan mewn arwerthiant cist ceir,  rhywbeth bach i gofio hafau hapus sydd nawr ar goll neu'n ddieisiau. Er y bydd y cwestiwn hwn yn parhau heb ei ddatrys, gobeithiwn y bydd yn annog y sawl sy'n eu gweld i edrych eto ar eu harchifau teuluol, neu i werthfawrogi gwerth ffotograffau dienw fel rhain.





Daw'r sleidiau o gasgliad Dawson Thomas, sy'n garedig iawn wedi eu benthyg iddynt ar gyfer yr arddangosfa.

"dim ond un lle arall, wedyn sha thre" yw'r gyntaf mewn cyfres o 9 arddangosfa y bydd prosiect *kickplate* yn eu trefnu yn 2020 ym Mrynmawr, Rhymni, Fochriw ac Abersychan, diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Cwm a Mynydd, a chydweithrediad gyda'n lleoliadau partner.

No comments:

Post a Comment