Monday 10 July 2017

"pagan" gan Andrei Liankevich

Arddangosfa gan y ffotograffydd Belarwsaidd Andrei Liankevich yw “pagan”, sy’n cofnodi traddodiadau gwerin yn Belarws sy’n deillio o oes cyn dyfodiad Cristnogaeth yn y 10fed ganrif ac sy’n dal i gael eu harfer yng nghefn gwlad Belarws. Fel pobl mewn mannau a diwylliannau eraill, roedd pobl Dwyrain Ewrop yn gwrthod rhoi’r gorau i’w traddodiadau, gan barhau i’w harddel, tra mabwysiadodd lledaenwyr y gred newydd rai o’r arferion paganaidd er mwyn denu mwy o bobl i’w dilyn, gan greu cymysgedd eclectig a hynod ddiddorol.

Dengys project Andrei sut y mae defodau na ŵyr pobl drefol, fodern nemor ddim amdanynt, neu sydd ond yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf trwy luniau mewn llyfrau hanes neu ymweliadau ag amgueddfeydd ethnograffig, yn dal yn fyw ac iach yng nghefn gwlad. Mae Andrei yn cyfleu manylion ac awyrgylch defodau a dathliadau a gynhelir ar hyd y flwyddyn, yn gysylltiedig â’r calendr amaethyddol a chrefyddol, sydd wedi goroesi ar hyd y canrifoedd.

Yng ngeiriau Svetlana Poleschuk, ymchwilydd ac awdur y rhagarweiniad i lyfr Andrei, “Goroesodd cred baganaidd bob cyfundrefn gymdeithasol-wleidyddol, gan ddiogelu’r peth pwysicaf: sylw arbennig a pharch at natur. Gall unrhyw wrthrych sy’n ymddangos yn ddinod ar yr olwg gyntaf fel carreg, coeden, planhigyn, torch, neu ffordd fod wedi ei gynysgaeddu ag ystyr symbolaidd a’i animeiddio; mae’n dod â lwc dda, yn gwneud y daith i’r byd a ddaw yn haws, yn gwella afiechyd, yn cadw rhag drwg, yn rhoi harddwch, yn rhagddweud y dyfodol. (...) Mae treiddio i gyfrinachedd y traddodiad gwerin a chreu delwedd anarferol, gyfriniol bron, o bentref Belsrwsaidd yn yr oes hon yn gwneud project Andrei yn wahanol i unrhyw beth a wnaed yn ffotograffiaeth Belarws cyn hyn, ac yn wahanol i ffotograffiaeth Belarws yn gyffredinol. Nid dim ond cyfres o bortreadau seicolegol mo hwn, nac ymgais syml i ddogfennu ffordd o fyw: mae’n ymchwil doeth a gofalus i haen gyfan o ddiwylliant, yn fwriadol rydd o’r gwleidyddoli sydd bellach yn nodweddiadol o unrhyw drafodaeth o bynciau’n ymwneud â Belarws. ‘Ceisiais ateb y cwestiwn pwy oeddem ni’n flaenorol a phwy ydym ni bellach, fel Belarwsiaid’, meddai Andrei Liankevich.” 

Mae Andrei’n ddarlithydd ffoto-newyddiaduraeth yn Vilnius, Lithwania, ac ef yw trefnydd Mis o Ffotograffiaeth ym Minsk. Mae’n rhan o SPUTNIK, casgliad o ffotograffwyr dogfennol o ganolbarth a dwyrain Ewrop.

“pagan” yw'r pumed mewn cyfres o 9 arddangosfa a drefnwyd yn 76m2 gan y*brosiect*kickplate, gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Datblygu Celfyddydau Cyngor Torfaen a Chyngor Cymuned Pont-y-pŵl.

Gallwch weld gwaith Andrei ar ei dudalen.

11fed Gorffennaf – 4ydd Awst

Dydd Mawrth – Dydd Sadwrn, 11:00 – 18:00


2 Adeiladau Portland
Stryd Fasnachol
Pont-y-pŵl
 Torfaen 
NP4 6JS


No comments:

Post a Comment