“I let myself be bird” is an
exhibition of photos by Stanka Koleva, a
Bulgarian born photographer currently living and working in Berlin, Germany. Stanka
grew up in the Black Sea town of Bourgas and has been a photographer since the
year 2000. She began taking photographs after inheriting her first camera from
her grandfather and learning the printing techniques she uses now from the
owner of the last commercial darkroom in Bourgas.
Working
with film, medium format cameras and printing the images herself using the gelatin silver process, Stanka creates
dream-like, provocative and multi layered images
full of light, fluidity and movement. Often ambiguous in their
meaning, Stanka's photos leave the interpretation up to the viewer.
Explaining the concepts in her work, Stanka says:
"Human nature and mutual relations are aspects on which I rely to do my
work, along with intuition, which is the most important part of an artistic
act."
“I let
myself be bird” is the 7th and last exhibition that will take place
in the Hanbury Road Gallery, a project run since August 2015 in Bargoed by
the*kickplate*project with the financial support of the Arts Council of Wales
(Welsh Government and Lottery Funding), Caerphilly Arts Development and Bargoed
Town Council.
Mae "Gadawaf i fi fy hun fod yn aderyn" yn arddangosfa o ffotograffau
gan “Stanka Koleva, ffotograffydd o Bulgaria sy'n byw a gweithio yn Berlin ar
hyn o bryd. Magwyd Stanka yn nhref Bourgas ger y Môr Du a bu'n ffotograffydd
ers y flwyddyn 2000. Dechreuodd dynnu ffotograffau ar ôl etifeddu ei chamera
cyntaf gan ei thad-cu a dysgu'r technegau argraffu mae'n eu defnyddio'n awr gan
berchennog yr ystafell dywyll fasnachol olaf yn Bourgas.
Gan weithio
gyda ffilm, camerâu fformat canolig a phrintio'r delweddau ei hun yn defnyddio
proses arian gelatin, mae Stanka yn creu delweddau breuddwydiol, profoclyd ac
aml-haenog yn llawn golau, hylifedd a symudiad. Yn aml yn amwys o ran ystyr,
mae ffotograffau Stanka yn gadael y dehongliad i'r rhai sy'n edrych arnynt.
Yn ei geiriau ei hun mae'n esbonio'r cysyniadau
yn ei gwaith: "Mae natur ddynol a chysylltiadau pobl gyda'i gilydd yn
agweddau y dibynnaf arnynt i wneud fy ngwaith, ynghyd â greddf, sef y rhan
bwysicaf o weithred artistig."
"Gadawaf
i fi fy hun fod yn aderyn" yw'r 7fed arddangosfa, a'r olaf a gynhelir yn
Oriel Heol Hanbury, prosiect a gynhaliwyd ym Margoed ers mis Awst 2015 gan
brosiect *kickplate* gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru (cyllid
Llywodraeth Cymru a'r Loteri), Datblygu Celfyddydau Caerffili a Chyngor Tref Bargoed.
Gallwch weld mwy o ffotograffau Stanka yn ei
phortffolio ac ar flickr.
No comments:
Post a Comment