Thursday 20 August 2015

Hanan Kazma - artist info (Welsh)


Y mae "partially here" yn gasgliad o ddelweddau gan y ffotograffydd a'r gelfyddwraig o Lebanon Hanan Kazma. Ar hyn o bryd mae'n gweithio yn Tripoli, Lebanon. Mae Hanan yn gyn-lawfeddyg deintyddol plant ac wedi dysgu'r grefft o ffotograffiaeth ei hun.

Ar gyfer yr arddangosfa yma yr ydym wedi dethol rhai o bortreadau gan Hanan. Hi yw'r model a'r ysbrydoliaeth. Y mae'n ddefnyddio technegau ôl-goruchwiliaeth a thechnegau mewn camera i greu dull unigryw o greu portreadau. 

Mae hi'n gymysgu technegau traddodiadol fel lluniau aml-ddinoethog a hir-ddinoethog, gyda thriniaeth digidol a phortreadau, gan ddefnyddio camera tandd­­ŵrY mae hi'n ddefnyddio lluniau fel modd i archwilio ei hemosiynau ac ail greu ei hunaniaeth. Ymgais yw hyn ganddi i ddangos yn weledol rhannau o ei phersonoliaeth sydd yn gudd ac fel modd i archwilio ac astudio emosiynau cudd er mwyn ceisio eu deall yn well.

Y mae Hanan yn gelfyddwraig cynhyrchiol sydd wedi cyhoeddi a chynllunio nifer o lyfrau unigol ffotograffig, tri llyfr ffotograffig mewn cydweithrediad a'r celfyddwr Americanaidd Richard Leach a chyhoeddiadau grŵp. Y mae'n gydweithio yn aml â ffotograffwyr ledled y byd. Gellir gweld hyn yn ei phortreadau "di-a-log" ac yn ddiweddar bu'n ran o'r prosiect Ffinneg Laatikkkomo.

Yn 2011 fe wnaeth arddangos ei gwaith am y tro cyntaf yn Tripoli, Lebanon. I gyd-fynd a'r arddangosfa cyhoeddodd lyfr yn dwyn y teitl "In Solitude and Out of Control”.












 

No comments:

Post a Comment