Thursday 29 October 2015

"in passing" by Andrew Pershin - Welsh info


­­­

­
Mae wrth fynd heibioyn arddangosfa solo gan yr artist Andrew Pershin o Rwsia. 


Mae Andrew yn ffotograffydd, argraffydd a bardd o Rostov-on-Don ger Môr Azov. Mae Andrew yn arbenigo mewn ffotograffeg analog ac yn defnyddio technegau argraffu traddodiadol fel printiau lith a phroses lliw RA4, yn aml yn arbrofi gyda ffilm a phapur darfodedig, sy'n ei alluogi i greu arlliwiau cynnil ac ansawdd cyfoethog.


Mae Andrew'n defnyddio technegau analog i bortreadu ei ganfyddiad o natur, gyda choed a thirluniau a gaiff eu llunio gan y tymhorau, newid mewn lliwiau a golau, rhai ohonynt yn fwy haniaethol na real, ac eraill yn dangos cytgord llinellau a siapiau naturiol. 


  Mae presenoldeb dynol yn dawel a dirodres.


Gellir gweld ffotograffau Andrew ar ei dudalen.


No comments:

Post a Comment